Oer ddinas, nei di’m cofio fi.
Rhaid gadael, i’r môr â fi
Aur ac arian yn pefrio yn y lli.
Oh, am fedydd i ‘ngolchi i.
Oer ddinas, ar y don mae bri.
Mae’r egigion yn fy natur i.
Ble gei di sŵn yr udo
sy’n gwneud bleiddiaid o gŵn?
Ble gei di liw y coch
sy’n groch ym mhob briw?
A dyma fynd i’r mynd
a throi yn y fro,
A chael yno eto
be' ges i bob tro.
Ble gei di saethu saeth
a tharo’r byd yn berffaith?
Ble gei di wir y gwir?
Min y ffaith?
Oh, wedi troi’n rhy hir
ar y ddaear gron,
Fel sgwarnog yn ei chylchoedd,
‘sdim rhesymu â hon.
Onid ydan ni i gyd
jest yn ymladd efo’r llyw?
A mil o bethau bach
yn ein torri ni i’r byw?
Er nad o' ni’n
dy weld di'n aml iawn,
ti 'di gadael ni i gyd yn wag,
a’r byd yn llawn, mor llawn.
Un ar y tro
yn gadael dim ond co'.
Tridie o wagle ers y llam.
Cymryd pob dim yn ara' deg,
mesur pob cam.
Oes, mae gin pob un ohono' ni
drwydded i fynd,
Gadael y drws ar agor
am yr awyr gwyn.
Croeso mawr i'r byd
ac enfys o ddychymyg.
Mae'r hen ddaear deg
yn galw i ti symud.
Boed i'r hen amynedd
fendithio blaen dy fysedd,
dilyn graen y byw
a theimlo'r hen drugaredd.
Boed i ti gael blas
ar rymoedd yr hen obaith,
ac i'w awen bêr
ffrwytho'n gelfyddydwaith.
mwy o ganeuon a straeon yn dod yn fuan