sioe

bwcio sioe

mewn lleoliad neu gartref

Dw i'n chwarae mewn llawer o lefydd gwahanol, gwyliau, tafarndai, clybiau, encilion a hyd yn oed ystafelloedd byw a cheginau. Ond mae gen i ychydig o ofynion, felly os wyt ti am i mi ddod i chwarae, ystyria'r canlynol:

- Dydi'r math yma o gerddoriaeth ddim yn gweithio mewn llefydd swnllyd mewn gwirionedd. Os wyt ti'n meddwl y byddai'r gynulleidfa'n mwynhau bod yn rhan o brofiad gwrando, yna byddaf yn hapus i ystyried dy gynnig. Rwy'n hoff iawn o leoliadau bach a chanolig, agos-atat-ti lle nad oes fawr o angen offer sain. Dyma pam fod y gigs gorau yn aml mewn stafelloedd byw! Gall gofod mwy weithio, er enghraifft theatr, clwb neu leoliad perfformio pwrpasol lle mae pawb sy'n dod eisiau gwrando. Gad i mi wybod pa fath o leoliad y byddaf yn chwarae ynddo.

- Os oes gennyt ti leoliad arbennig yr hoffet i mi chwarae ynddo, byddaf yn ystyried trefnu ar y cyd gyda thi, a chawn weld os allwn ni roi'r gig ymlaen efo'n gilydd.

- Os oes mwy na 15 o bobl yn mynychu, fel arfer bydd angen offer sain. Gad i mi wybod faint o bobl fyddi di'n disgwyl ac os oes gan y lleoliad ei system sain ei hun ai peidio.

- Y pellaf i ffwrdd ydi'r gig, y mwyaf ydi'r costau teithio. Os ydi'n fwy na dwy neu dair awr mewn car, ac yn dibynnu ar beth arall sy'n digwydd yn fy mywyd, efallai y bydd angen llety arnaf. Mae fy nyddiau'n cysgu ar soffas wedi hen fynd heibio mae gen i ofn. Mae angen gwely ar y tad canol oed yma!

- Os wyt ti hefyd eisiau i mi adrodd straeon / darparu gweithdai neu sgyrsiau ar chwedlau Celtaidd, gallaf gymysgu'r gerddoriaeth gyda'r pethe 'ma. Rwy'n dysgu cyrsiau ar-lein yn rheolaidd, yn cynnal gweithdai ar chwedlau Celtaidd ac yn adrodd straeon traddodiadol, felly os dyna beth sydd o ddiddordeb i ti, gad i mi wybod. Mae mwy am fy ngwaith yn y maes fan hyn.

- Mae'r ffi i gyd yn dibynnu ar bwy wyt ti a beth rwyt ti'n ceisio'i gyflawni. Mae gig lleol 1 awr / adrodd straeon gydag ychydig iawn o deithio fel arfer yn costio tua £200. Weithiau byddaf yn ystyried chwarae am ddim i godi arian at achosion da. Y pellaf i ffwrdd ydi’r gig, yr hiraf fydda i oddi cartref, yr uchaf ydi’r ffi a’r costau teithio/llety.

PRIVACY POLICY

COPYRIGHT Gwilym Morus-Baird, 2024